Bannau Sir Gar
Bannau Sir Gar o Landdeusant kindly provided by Ken Day Photography

Storytelling

Esyllt performs and teaches in Welsh, English or bi-lingually. She is noted for her easy interweaving of both languages, making for effortless understanding. She also moves smoothly between spoken and sung material, giving a new - but age-old - inflection to her telling.  She draws primarily on material from Wales. Myth, legend and history mix with fragments gleaned from the features of the land and thememories of the people.

Performances

Esyllt's performances may be solo, or devised in collaboration with established musicians and other artists. They always incorporate song, and are often designed for a particular audience in its locality.

She also offers:
Imagination's Tongue - lively presentations for Welsh learners to make learning effortless. When language is heard through the imagination, it is amazing how much can be understood. English 'sub-titles' where needed.

Esyllt has experience of learning several languages, and has taught EFL.

Teaching

Living Legends – Exploring Storytelling

We ourselves, and the land are alive with stories. This course offers encouragement to find them, and to gain skills and creative confidence in order to tell them – with an emphasis on the Legend in the Land.

Chwedleua

Mae Esyllt yn perfformio ac yn dysgu drwy'r Gymraeg, y Saesneg, neu yn ddwyieithog. Mae hi'n plethu'r ddwy iaith drwy'i gilydd mewn modd sydd yn rhwydd i bawb ei ddeall. Mae hi hefyd yn symud yn esmwyth rhwng y llafar a'r gân, gan greu naws hynafol sydd hefyd yn gyfoes. Cymru yw prif ffynhonnell ei deunydd. Cawn fytholeg, chwedlau a hanes yn gymysg â darnau wedi'u lloffa o nodweddion y tir a chof y bobl.

Perfformiadau

Mae Esyllt yn perfformio yn unigol, neu ar y cyd â cherddorion ac artistiaid eraill. Mae'r perfformiadau bob amser yn cynnwys canu, ac yn aml wedi eu creu ar gyfer cynulleidfa arbennig yn ei chynefin.

Mae hi hefyd yn cynnig:
Tafod y Dychymyg - cyflwyniadau bywiog ar gyfer dysgwyr sy'n hwyluso'r broses o ddysgu. Pan glywir iaith drwy'r dychymyg, mae'n syndod cymaint ohoni sy'n ddealladwy.

Mae gan Esyllt brofiad o ddysgu ieithoedd ei hun, ac o addysgu Saesneg fel ail iaith.

Addysgu

Living Legends – Chwedlau Byw

Rydym ni, fel y wlad o'n cwmpas, yn llawn o straeon. Yn y cwrs yma cawn anogaeth i ddod o hyd iddynt, ac i fagu'r sgiliau a'r hyder i'w cyflwyno ar lafar – gyda'r pwyslais ar y Chwedl yn yTir.